Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn ysgol hapus a chyfeillgar, gyda disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Mae Llywodraethwyr yr ysgol hapus a llwyddiannus hon yn ceisio penodi athro/athrawes uchelgeisiol, brwdfrydig ac arloesol gyda sgiliau rheoli a rhyngbersonol rhagorol i gynorthwyo’r Pennaeth i arwain tîm o staff addysgu a chymorth ymroddedig.
Dylech fod yn:
- ymarferydd rhagorol sy’n ymrwymedig i godi safonau a gwella’r ysgol;
- yn frwdfrydig dros addysg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a’r ysgogiad i arwain datblygiadau cwricwlaidd sy’n galluogi pob plentyn i lwyddo yn eu dysgu;
- unigolyn sydd â’r sgiliau rhyngbersonol a threfnu angenrheidiol i ysgogi a gyrru mentrau gan ddefnyddio sgiliau’r tîm staff mawr;
- unigolyn â’r personoliaeth, yr ysgogiad a’r brwdfrydedd i gefnogi’r Pennaeth a’r Llywodraethwyr wrth arwain a rheoli’r ysgol.
Yn yr ysgol, rydym wedi ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol o ansawdd uchel, ac rydym yn gallu cynnig dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig a fydd yn herio eich meddylfryd. Rydym yn gymuned hapus, groesawgar a gweithgar o staff, rhieni, llywodraethwyr a disgyblion sy’n frwd dros brofiad addysgol o safon uchel.
Dylai ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer cyfweliad gysylltu â’r Pennaeth i drefnu ymweliad â’r ysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 12 Mehefin 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 15 Mehefin 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 25 Mehefin 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person