32.5 oriau yr wythnos
Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn dymuno penodi athro neu athrawes egniol, medrus ac hynod gymhellol i ymgymryd â’r swydd o Athro/Athrawes y Darpariaeth Awtistiaeth ynghyd â’r cyfrifoldeb ysgol gyfan fel ALNCo (TLR 2A). Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â chymuned ysgol Gymraeg gynhwysol, frwdfrydig a llwyddiannus lle mae lles a chynnydd pob dysgwr wrth wraidd ein gweledigaeth.
O Fedi 2026, mae’r ysgol yn bwriadu recriwtio ymarferydd profiadol i ddysgu yn ein dosbarth arbenigol ar gyfer dysgwyr ag awtistiaeth (Cyfnod Pontio, oed 7–11) ac i arwain Anghenion Dysgu Ychwanegol ar draws yr ysgol yn unol â gofynion Deddf ADY (Cymru) 2018.Yn ystod y cyfnod cychwynnol, bydd y rôl yn cynnwys cyfuniad o ddysgu ac arweinyddiaeth ADY, gan symud i ddysgu llawn amser yn y ddarpariaeth awtistiaeth yn unol â threfniadau’r swydd.
Mae’r Pennaeth a’r Corff Llywodraethol yn ymrwymedig i greu amgylchedd dysgu meithringar, cynhwysol a llawn dyhead, gyda diwylliant o uchelgais, parch ac agwedd gadarnhaol at ddysgu, lle mae rhagoriaeth yn safon.
Mae'r gallu i sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o ofynion y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 23 Chwefror 2026
Restr fer: 24 Chwefror 2026
Ymweliad ac arsylwad gwers: 2 Mawrth 2026 – 09 Mawrth 2026
Cyfweliad: 13 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person