25 awr yr wythnos
Mae Byw â Chymorth yn ymwneud â phobl ag anabledd sy'n byw yn eu cartref eu hunain, yn gwneud dewisiadau am eu bywydau a chael cymorth i fyw y ffordd y maent yn dymuno.
Rydym yn awyddus i recriwtio staff cymorth i weithio yn ein Gwasanaethau Byw â Chymorth ar draws Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, greadigol a hyblyg sy'n ymrwymedig i rymuso pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn dewisiadau a phenderfyniadau am bob agwedd ar eu bywydau. Bydd gennych agwedd sensitif sy'n portreadu dealltwriaeth o'r materion a wynebir gan bobl ag anabledd.
Mae dull cadarnhaol a chynorthwyol yn un o ofynion y rôl oherwydd bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo pobl mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person gyda phob maes o anghenion a nodwyd, h.y. corfforol, ymarferol ac emosiynol. Gall hyn gynnwys tasgau yn y cartref a domestig, siopa a pharatoi bwyd, hylendid personol, gweithgareddau cymdeithasol, cynnig arweiniad a chyngor i alluogi defnyddwyr gwasanaethau i wneud penderfyniadau hyddysg ac arfer eu hawliau.
Bydd y rôl yn cynnwys annog a chynorthwyo Defnyddwyr Gwasanaethau i ddod yn aelodau integredig o'u cymuned leol drwy hyrwyddo presenoldeb corfforol a chymdeithasol mewn cyfleusterau cymunedol e.e. addysgol, galwedigaethol, a chymdeithasol a hamdden. I'ch cynorthwyo yn eich rôl byddwch yn cael hyfforddiant priodol, y cyfle i weithio mewn tîm gyda chymorth gan gydweithwyr, goruchwyliaeth un i un gyda'ch rheolwr llinell, yn ogystal â chyfarfodydd tîm rheolaidd.
Ar gyfer y swyddi hyn, bydd angen ichi fod yn hyblyg a byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith sifft, sy'n cynnwys penwythnosau, sifftiau nos os bydd angen, gwyliau banc, dyletswyddau cysgu i mewn (y telir lwfans ychwanegol amdanynt) a rhaid ichi fod yn barod i yrru cerbyd Motability'r defnyddwyr gwasanaethau hefyd. Bydd yr oriau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth ac mae'n amodol ar anghenion y gwasanaeth. Rhaid i’r ymgeisydd llwyddianus dal diploma FfCCh Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Cymru a Gogledd Iwerddon neu gymhwyster blaenorol neu'n barod i ymgymryd â hyfforddiant i gyflawni'r dyfarniad.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 4 Awst 2021