30 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at 12 mis
Ceir ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn eu cael ar bobl ifanc a'r angen am wasanaethau a dulliau sy'n cael eu llywio gan drawma sy'n ystyried pob agwedd ar ddarparu gwasanaethau.
Mae dulliau sy'n cael eu llywio gan drawma wedi'u sefydlu'n dda mewn gwasanaethau i bobl ifanc. Mae model Dadansoddol Ymddygiadol wedi'i Lywio gan Drawma wedi'i ddatblygu o Ddadansoddi Ymddygiad Cymhwysol (ABA) ac Arfer sy'n cael ei Lywio gan Drawma. Mae Dadansoddi Ymddygiad yn cael ei gydnabod yn genedlaethol fel therapi sy'n seiliedig ar dystiolaeth fawr ar gyfer gweithio gyda staff a phobl ifanc o fewn gwasanaethau sy'n cael eu llywio gan drawma.
A ydych am gael y cyfle i fod yn rhan o dîm sy'n datblygu ac yn gweithredu model gwasanaeth newydd, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru?
A ydych yn llawn cymhelliant, ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod?
Os felly, darllenwch ymlaen oherwydd rydym am glywed gennych……..
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu gwasanaeth newydd mewn ymateb i'r angen am gymorth ychwanegol, ymyriadau therapiwtig a llety i bobl ifanc (18+) sydd ag anghenion cymhleth. Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo pob unigolyn ar ei lwybr pontio tuag at ddatblygu cydnerthedd emosiynol, sgiliau byw a bywyd annibynnol.
Caiff y gwasanaeth ei deilwra i anghenion unigol y person ifanc a bydd yn darparu rhaglenni cyfannol a strwythuredig sy'n ymgorffori'r holl sgiliau hanfodol sydd angen eu datblygu a chymorth i adfer ar ôl trawma.
Bydd gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn a bydd staff yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod perthnasoedd effeithiol yn cael eu cynnal gyda rhanddeiliaid allweddol ac asiantaethau partner gan gynnwys Rheoli Gofal, Therapi Galwedigaethol, yr Uned Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, Gwasanaethau Plant, Landlord Cymdeithasol Cofrestredig ac arbenigwyr eraill pan fo angen.
Bydd staff yn cael hyfforddiant pwrpasol, seiliedig ar dystiolaeth a chymorth parhaus mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol, dulliau sy'n cael eu llywio gan Drawma, Addysgu Ymyriad Academaidd Arbenigol drwy Ddadansoddi Ymddygiad ac Asesu Sgiliau Bywyd Gweithredol (AFLS).
Mae'r gwasanaeth yn anelu'n benodol at ddiwallu anghenion o leiaf pedwar person ifanc 18-21 oed sydd ag anghenion cymhleth nad yw modelau ‘traddodiadol’ o gymorth ac opsiynau tai yn addas iddynt. Byddwn yn darparu llety ar gyfer hyd at bedwar unigolyn ac allgymorth am gyfnod o amser y cytunwyd arno ar ôl iddynt symud ymlaen.
Pan fydd y model gwasanaeth wedi'i sefydlu a'i ymgorffori'n ymarferol, ein nod yw ehangu'r gwasanaeth a gweithio gyda phobl ifanc o 16+ ar eu llwybr pontio o wasanaethau rheoleiddiedig i fyw'n annibynnol
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 4 Awst 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’