Contractau amser llawn a rhan-amser ar gael
A ydych yn angerddol am wella bywydau plant a phobl ifanc? A ydych am weithio i gyflogwr sy'n rhoi pwys mawr ar oruchwylio o ansawdd uchel, llesiant a datblygu gyrfa?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i Weithwyr Cymdeithasol ymuno â ni i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.
Yn ddiweddar, rydym wedi cwblhau ailstrwythuro er mwyn darparu amrywiaeth hyd yn oed yn ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. O ganlyniad i'r ailstrwythuro, mae pedwar tîm rheoli achosion llai wedi'u creu a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio Gweithwyr Cymdeithasol a fydd wedi'u lleoli yn ein Tîm Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal newydd neu'r Timau Ardal. Mae' ein Tîm Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal yn gweithio gyda phlant â phrofiad o fod mewn gofal a'r gweithrediadau ôl-ofal a phobl ifanc hyd at 16 oed.
Mae ein Timau Ardal wedi'u lleoli mewn tair canolfan gymunedol o amgylch y fwrdeistref sirol. Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â phlant ag anableddau a phobl ifanc 16 oed a throsodd y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae'r gwasanaeth hwn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Yn 2020 lansiodd Gofal Cymdeithasol Plant y model gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n sail i'n holl ymarfer ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer yn unol ag egwyddorion y model.
Byddem wrth ein bod yn clywed gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol a'r rhai yn eu dwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a dyrchafu.
Gwnaeth ein rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ennill gwobr ‘Datblygu gweithlu hyderus a chynaliadwy’ yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2018.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol.
Gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gyflogwr i chi, gallwch ddisgwyl gweithio mewn amgylchedd gwerth chweil ac addysgol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch ag Iain McMillan ar Iain.Mcmillan@bridgend.gov.uk
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 8 Rhagfyr 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’