Yn ôl y galw
A ydych y math o berson sy'n chwilio am gyflwyniad i yrfa werth chweil ym maes Gofal Cymdeithasol Plant? Mae cyfle wedi codi lle rydym yn ceisio recriwtio unigolion llawn cymhelliant i weithio fel Gweithwyr Preswyl Achlysurol yn y darpariaethau preswyl i blant a weithredir gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Fel Gweithiwr Preswyl Achlysurol byddwch yn cael eich galw i gyflenwi pan fydd prinder staff, a bydd y rôl yn golygu bod angen llawer iawn o hyblygrwydd o ran eich argaeledd. Gan fod y swydd wedi'i lleoli'n breswyl, bydd gofyn i chi gyflenwi sifftiau gyda'r hwyr, gyda dyletswyddau cysgu i mewn a dilyn drwodd i waith y diwrnod nesaf ar unrhyw adeg yn ystod yr wythnos.
Gan weithio fel rhan o dîm mae'n ofynnol i chi ddarparu pob agwedd ar ofal yn unigol ac fel grŵp i blant a phobl ifanc. Byddwch yn cymryd rhan wrth helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, yn ogystal â rhai tasgau unigol, byddwch yn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau annibyniaeth, gall y gwaith hefyd gynnwys gwaith allgymorth i gynorthwyo pobl ifanc, rhieni/gofalwyr yn y gymuned a bydd yn ofynnol i chi hefyd ymgymryd â dyletswyddau cartref yn y cartref preswyl.
Rhaid i chi allu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn, gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm, gallu ymwneud yn dda â phlant a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 plant a phobl ifanc neu gymhwyster cyfatebol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru neu fe fydd yn ofynnol i chi weithio tuag at hyn.
Efallai y bydd yn ofynnol i chi weithio mewn unrhyw un o'r pedwar cartref preswyl i blant o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd amodau penodol pob cartref yn amrywio a bydd cymhwysedd ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer pob swydd wag yn cael ei bennu yn ystod y broses asesu. Gellir dod o hyd i'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person ar gyfer pob rôl drwy glicio ar y ddolen isod.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor. Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 04 Awst 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’