37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am Therapydd Galwedigaethol profiadol, annibynnol a llawn cymhelliant i ymuno â'n gwasanaeth galluogi gofal cartref arloesol Bridgeway. Mae'r gwasanaeth yn cynnal asesiadau o bobl â dementia neu nam gwybyddol i sicrhau eu hannibyniaeth a sefydlu lefel y cymorth y gall fod angen arnynt i'w galluogi i aros yn y cartref o'u dewis. Mae'r gwasanaeth hefyd yn ceisio gwella eu llesiant a llesiant eu gofalwyr. Byddai cefndir o weithio ym maes iechyd meddwl pobl hŷn a bod yn gyfarwydd â'r asesiadau safonedig a ddefnyddir yn y lleoliad hwnnw yn werthfawr.
Mae gwasanaeth Bridgeway yn rhan o'n Tîm Adnoddau Cymunedol sy'n wasanaeth amlbroffesiynol cynhwysfawr sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, deietegyddion, nyrsys a staff cymorth.
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli eich llwyth achosion eich hun, defnyddio gweithio amlasiantaethol yn llawn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion a gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau a thechnolegau newydd. Mae staff yn cael y cyfle i dyfu a datblygu yn y tîm a'r sector.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
Buddsoddi yn eich datblygiad, gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi ar gyfer dysgu a datblygu ar gael.
Cymorth proffesiynol gan Uwch Ymarferydd arbenigol
Ad-dalu eich ffioedd proffesiynol HCPC
Cyflog cystadleuol
Parcio am ddim yn y swyddfa
Cynllun oriau hyblyg
Gweithio hyblyg
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 24 Gorffennaf 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 26 Gorffennaf 2024 Dyddiad Cyfweld: 16 Awst 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person