15 awr yr wythnos
Mae gennym swyddi gwag yn ein gwasanaeth Gofal Cartref sy'n cwmpasu Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n hyblyg i fodloni'r oriau gwaith yn ystod y dydd, a galwadau gyda'r nos yn y maes gwasanaeth hwn, gan sicrhau bod anghenion dinasyddion yn cael eu diwallu yn y gymuned.
Mae ein Gwasanaeth Gofal Cartref Mewnol yn darparu cymorth i bobl ag anableddau corfforol, pobl ag anghenion dementia, pobl sydd wedi'u rhyddhau o'r ysbyty yn ddiweddar ac sy'n aros am raglen Ailalluogi.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Yn ddelfrydol bydd gennych rywfaint o brofiad o ofalu am oedolion a phobl hŷn, er nad oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch i ymuno â ni. Byddwch yn cynorthwyo'n bennaf â thasgau gofal personol, a fydd yn cynnwys ymolchi, mynd i'r toiled a gwisgo wrth alluogi pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 7.30am a 10.00pm yn bennaf. Fel rhan o dîm, bydd eich patrwm gwaith yn cynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc a byddwch yn cael hysbysiad ymlaen llaw o'ch diwrnodau gwaith a gorffwys sydd wedi'u trefnu. Y bore yw'r amser prysuraf i ni ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn recriwtio pobl sy'n gallu dechrau gwaith yn gynnar.
Bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn ymrwymedig ac yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol, gan gynnwys Diploma FfCCh lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwch yn meddu ar drwydded yrru lawn ac yn gallu defnyddio eich car eich hun.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 28 Iau 2021.
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’