37 awr yr wythnos
Mae ein Tîm Anableddau Plant a Phontio yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant â phrofiad o fod mewn gofal a'r bobl ifanc anabl hynny sy'n pontio i fyd oedolion.
Mae'r tîm yn ymateb i blant a theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar am amddiffyn plant ac mae'n darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â'n tîm Anableddau Plant a Phontio prysur, llawn cymhelliant a chefnogol. Bydd gennych gymhwyster gwaith cymdeithasol cydnabyddedig ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion cymhleth plant/pobl ifanc/oedolion anabl a'u teuluoedd. Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio fel gweithiwr cymdeithasol mewn gwasanaethau plant neu oedolion ac awydd i arbenigo mewn gweithio gyda phlant/pobl ifanc/oedolion anabl. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso sydd â diddordeb mewn arbenigo yn y maes gwaith cymdeithasol hwn. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle prin i reoli achosion plant ac oedolion ac i gael amrywiaeth eang o brofiad o reoli achosion ar draws y rhychwant oedran o fewn tîm cefnogol.
Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad datgeliad manwl gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon a hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Beverley Whiteley - Rheolwr Tîm, Tîm Anableddau Plant a Phontio ar (01656) 815442
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’