37 awr yr wythnos
Rydym yn ceisio recriwtio unigolyn llawn cymhelliant a phrofiadol i rôl Rheolwr Gofal Preswyl ym Bryn Y Cae, Mhen-y-bont ar Ogwr; rhywun sy'n ymrwymedig i rymuso pobl hŷn i gymryd rhan weithredol mewn dewisiadau a phenderfyniadau am eu gofal a'u cymorth. Byddwch yn gyfrifol am reolaeth weithredol Cartref Gofal Preswyl i bobl hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth, unigolion â dementia a darparu cymorth seibiant. Bydd ffocws ar wasanaethau sy'n canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan y person; bydd disgwyl i chi ddatblygu cyfleoedd i bobl a'u teuluoedd gymryd rhan weithredol mewn prosesau ymgynghori a datblygu gwasanaethau Rydym yn chwilio am rywun a all arwain tîm staff sefydledig ac ymroddedig gyda dull arweinyddiaeth ysbrydoledig a hanes o ddatblygu ac ysgogi timau staff. Rhaid i chi feddu ar brofiad blaenorol mewn rôl arweinyddiaeth a rheoli mewn lleoliad a reoleiddir, bod â dull ymarferol o ran gofal a chymorth, bod yn greadigol ac yn flaengar, a meddu ar wybodaeth dda am Safonau RISCA a chyfrifoldebau bod yn Rheolwr Cofrestredig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)Bydd y rôl yn cynnwys cymryd yr awenau gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod gofynion statudol yn cael eu bodloni ac yn cyflawni canlyniadau sy'n cael eu llywio gan safonau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a RISCA; sicrhau bod y cartref yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a'r safonau perthnasol drwy fonitro parhaus a chymorth ymarferol.Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n datblygu ein modelau cymorth presennol ac yn cyfrannu at ddatblygiad ehangach gwasanaethau gofal cymdeithasol ac adnoddau cymunedol ar draws y gyfarwyddiaeth. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reolaeth, arweinyddiaeth a datblygiad cyffredinol timau staff, yn goruchwylio recriwtio ar gyfer y gwasanaeth ac yn gyfrifol am ddefnyddio adnoddau'n effeithiol ar draws y cartref i gyrraedd safonau cymorth diogel Mae cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn un o ofynion y swydd yn ogystal â chymhwyster cydnabyddedig mewn Arweinyddiaeth a Rheoli I'ch cynorthwyo yn eich rôl byddwch yn cael hyfforddiant , y cyfle i weithio mewn tîm gyda chymorth gan gydweithwyr, goruchwyliaeth un i un gyda'ch rheolwr llinell, yn ogystal â chyfarfodydd tîm rheolaidd.Ar gyfer y swydd hon bydd angen i chi fod yn hyblyg ac ar gael i weithio nosweithiau a phenwythnosau yn ôl yr angen.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae dyletswyddau Nos, Gweithio ar Benwythnosau, a Dyletswyddau Wrth Gefn ac Ymateb Brys yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 24 Ebrill 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person