37 awr yr wythnos
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn ymrwymedig i'n plant a'n pobl ifanc ac yn angerddol am sut rydym yn darparu gwasanaethau iddynt. Yn ddiweddar, mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno Arwyddion Diogelwch fel ei Fframwaith Ymarfer mewn Gofal Cymdeithasol Plant, a'n nod yw ymgorffori diwylliant o ymarfer, gwelliant parhaus o ran y ffordd rydym yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy'n adeiladu ar y cryfderau mewn teuluoedd a chymunedau sy'n rhoi diogelwch, llesiant a gwella canlyniadau i blant a'u teuluoedd wrth wraidd popeth a wnawn.
Ein gweithlu yw ein hased mwyaf, a chredwn fod arfer gorau yn cael ei ddarparu gan ymarferwyr sy'n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gyda rheolaeth a goruchwylio da ac sydd â mynediad at gyfleoedd dysgu a datblygu o ansawdd uchel. Os ydych yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig gyda 3 blynedd neu fwy o brofiad o weithio mewn gwasanaethau plant statudol a galluogi gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth, yna mae gennym yr union rôl i chi yn y Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
Mae'r Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn gweithio ar draws gofal cymdeithasol Plant ac Oedolion, gyda sefydliadau annibynnol a'r trydydd sector ac asiantaethau partneriaid statudol i gyflawni rhaglen dysgu a datblygu graidd yn ogystal â rhaglenni datblygu i ymgorffori ein fframweithiau ymarfer a modelau cyflawni cysylltiedig. Mae'r tîm yn brofiadol, yn sefydlog ac yn uchel ei barch yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Bydd y swydd newydd Swyddog Arweiniol Datblygu'r Gweithlu ar gyfer Gofal Cymdeithasol Plant, gan weithio'n agos gyda Rheolwyr Gofal Cymdeithasol Plant, yn gyfrifol am nodi anghenion hyfforddi a datblygu o fewn gwasanaethau plant a datblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddi a dysgu, a all gynnwys opsiynau dysgu wyneb yn wyneb, digidol a chyfunol. Byddwch yn cyfrannu at ddatblygiadau strategol ac yn cychwyn ac yn cyflwyno prosiectau sy'n canolbwyntio ar wella perfformiad a datblygiad proffesiynol staff ar draws y gyfarwyddiaeth.
Os ydych eisoes yn gweithio mewn rôl dysgu a datblygu, neu mewn tîm gwaith cymdeithasol, mae hwn yn gyfle gwych i gyfrannu at wneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn y fwrdeistref sirol a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost i scwdp@bridgend.gov.uk
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 15 Mai 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person