37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig yn barhaol ac yn achlysurol i ymuno â'n timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion sy'n cefnogi unigolion a'u teuluoedd i aros mor annibynnol â phosibl.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu eich gyrfa a'ch profiad, gan gynnwys dull sy'n canolbwyntio ar y person ac sy'n seiliedig ar gryfderau, er mwyn galluogi unigolion i barhau i reoli'r hyn sy'n bwysig iddynt. Byddwch yn darparu cymorth o bosibl ar draws pob un o'n timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Fodd bynnag, i ddechrau byddem yn eich gweld yn cefnogi ein gwasanaethau asesu tymor byr a'n tri thîm clwstwr cymunedol sy'n cefnogi oedolion hŷn ac anabl.
Rydym wedi ymrwymo i gymorth goruchwylio proffesiynol, ac yn cynnig hyfforddiant gwych i weithwyr cymdeithasol ar gyfer dilyniant gyrfa a datblygiad parhaus.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’