1 x 25 awr yr wythnos
1 x 30 awr yr wythnos
Dros dro tan fis Mawrth 2025 gyda'r bwriad o ymestyn hyn
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn eu cael ar bobl ifanc a'r angen am wasanaethau a dulliau sy'n cael eu llywio gan drawma sy'n ystyried pob agwedd ar eu hanghenion A ydych yn llawn cymhelliant, ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod? A ydych am ddatblygu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol a'r cyfle i ennill cymwysterau? A oes gennych werthoedd da, yn rhadlon gyda phersonoliaeth hwyliog a hyderus a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm?Os felly, darllenwch ymlaen oherwydd rydym am glywed gennych……..Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu gwasanaeth mewn ymateb i'r angen am gymorth ychwanegol, ymyriadau therapiwtig a llety i bobl ifanc (18+) sydd ag anghenion cymhleth. Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo pob unigolyn ar ei lwybr pontio tuag at ddatblygu cydnerthedd emosiynol, sgiliau byw a bywyd annibynnol. Bydd staff yn derbyn hyfforddiant pwrpasol a chymorth parhaus mewn Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol Mae'r gwasanaeth yn anelu'n benodol at ddiwallu anghenion o leiaf pedwar person ifanc 18-21 oed sydd ag anghenion cymhleth nad yw modelau ‘traddodiadol’ o gymorth ac opsiynau tai yn addas iddynt. Byddwn yn darparu llety ar gyfer hyd at bedwar unigolyn ac allgymorth am gyfnod o amser y cytunwyd arno ar ôl iddynt symud ymlaen.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Dyletswyddau Nos, Cysgu i Mewn, Gweithio ar y Penwythnos, yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 14 Awst 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 30 Awst 2024 Dyddiad Cyfweld: 07 Medi 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person