37 awr yr wythnos
Rydym yn chwilio am Arbenigwr Adsefydlu Golwg profiadol, annibynnol a llawn cymhelliant sydd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau ein trigolion.
Mae ein Tîm Synhwyraidd yn rhan o Dîm Adnoddau Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr sy'n wasanaeth amlbroffesiynol cynhwysfawr sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, therapyddion lleferydd ac iaith, deietegyddion a staff cymorth. Mae'r tîm wedi'i leoli mewn canolfan asesu gyda chyfleusterau adsefydlu ar y safle. Mae'r Tîm Synhwyraidd yn cynorthwyo pobl sydd wedi colli golwg, colli clyw a nam ar ddau synnwyr (gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau ychwanegol ac anghenion cymhleth) i ddiwallu eu hanghenion gofal cymdeithasol, hyrwyddo eu hannibyniaeth, a'u helpu i gyflawni eu nodau a'u canlyniadau a gwella eu llesiant.
Mae'r tîm yn cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad, asesiadau yn y cartref, adsefydlu gan gynnwys hyfforddiant cyfeirio a symudedd, sgiliau byw bob dydd, therapi golwg isel, cyfathrebu wrth ddarparu offer/addasiadau a chymorth emosiynol/seicolegol yn ogystal â chyfeirio i amrywiaeth o wasanaethau arbenigol.
Mae'r rôl yn cynnwys rheoli eich llwyth achosion eich hun, defnyddio gweithio amlasiantaeth yn llawn er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i unigolion a gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau a thechnolegau newydd. Mae staff yn cael y cyfle i dyfu a datblygu yn y tîm a'r sector.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
Buddsoddi yn eich datblygiad, gyda chyfleoedd hyfforddi ar gyfer dysgu a datblygu ar gael.
Cymorth proffesiynol gan Uwch Ymarferydd arbenigol
Rydym yn talu am eich aelodaeth broffesiynol barhaus
Cyflog cystadleuol
Parcio am ddim yn y swyddfa
Cynllun oriau hyblyg
Gweithio hyblyg
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 08 Mai 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person