18.5 awr yr wythnos
Gwneud gwahaniaeth bob dydd fel Swyddog Datblygu'r Gweithlu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r swydd hon yn cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu staff sy'n gweithio yn CBSP a gwasanaethau gofal uniongyrchol y sector annibynnol. Byddwch yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid a phartneriaid yn fewnol ac yn allanol i sicrhau bod datblygu'r gweithlu yn darparu'n ymatebol i gynorthwyo'r gwaith o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i unigolion a gofalwyr sy'n cael mynediad at ofal a chymorth. Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i fodel dull gofal seiliedig ar gryfderau, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau wrth gynorthwyo pobl sy'n derbyn gwasanaethau.
Byddwch yn defnyddio dull strategol o hyfforddi, asesu'r sgiliau a'r wybodaeth yn y sefydliad a nodi pa hyfforddiant sydd ei angen i dyfu a chadw'r sgiliau hyn. O ystyried yr amrywiaeth o wasanaethau a phynciau i'w hystyried, byddwch yn trefnu hyfforddwr trydydd parti yn bennaf i ddarparu hyfforddiant, yn fewnol neu'n allanol, ond bydd lle i gynllunio a darparu hyfforddiant eich hun.
Eich swydd chi yw rhoi'r wybodaeth, y sgiliau ymarferol, a'r cymhelliant i staff gyflawni eu cyfrifoldebau gwaith. Byddwch yn gwerthuso rhaglenni hyfforddi a datblygu ac yn paratoi adroddiadau ar gyfer rheoli mewn meysydd fel defnydd, ymgysylltu, a pherfformiad. Bydd angen dull hyblyg arnoch o ran gwaith a dealltwriaeth o sut y mae amrywiaeth a chynhwysiant yn dylanwadu ar gynllunio a darparu hyfforddiant.
Byddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar o Swyddogion Datblygu'r Gweithlu profiadol, llawn cymhelliant, a rhagweithiol sy'n gweithio ar draws y Gyfarwyddiaeth gan gyfrannu at hyrwyddo diwylliant ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Os oes gennych brofiad o weithio gyda gwasanaethau gofal uniongyrchol neu ynddynt, cynllunio, darparu, a monitro hyfforddiant mewn gofal cymdeithasol byddem yn hoffi clywed gennych. Bydd gennych hefyd sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a gofal cwsmeriaid rhagorol, a lefel uchel o hunandrefnu, yn gallu rheoli a blaenoriaethu anghenion hyfforddi aml-safle.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 25 Ebrill 2024
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 01 Mai 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 22 Mai 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person