37 awr yr wythnos
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dydd o Ganolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr a'n Canolfannau Cymunedol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed ac sydd ag anabledd dysgu ac i bobl hŷn.
A chithau'n gweithio fel Arweinydd Tîm Cynorthwyol yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gyfrifol am roi arweiniad a chyfarwyddyd i grŵp bach o staff gweithredol, sy'n ymwneud â chydlynu gwaith, dirprwyo tasgau a datrys materion arferol.
A chithau'n ofalgar ac yn sensitif, byddwch yn gallu cyfathrebu'n briodol â phobl ar lefelau gwahanol o allu a byddwch yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol. Er mwyn bod yn effeithiol yn y rôl hon byddwch yn chwaraewr tîm ac yn meddu ar ddealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud ag anabledd, yn ddelfrydol wedi'i hategu gan brofiad yn y maes hwn.
Gan ymuno â'n tîm staff presennol, mae hyblygrwydd yn allweddol oherwydd byddwch yn cyflenwi ar gyfer absenoldebau yn sgil gwyliau a salwch.
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd feddu ar drwydded yrru ddilys a llawn.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 05 Awst 2020
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'