Yn ôl yr angen - Amser Tymor
Mae angen person brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymroddedig i gynorthwyo plant ag anghenion ychwanegol yn yr ystafell ddosbarth brif ffrwd fel Cynorthwyydd Cymorth Anghenion Arbennig.
Mae angen cymhwyster lefel 2 mewn Gofal Plant. Byddai rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn fanteisiol.
Mae trwydded yrru lawn a defnydd o'ch cerbyd eich hun yn ystod oriau gwaith yn hanfodol.
Bydd disgwyl i chi weithio mewn lleoliadau addysg, ar draws y fwrdeistref, yn unol ag anghenion y Gwasanaeth Cymorth i Ddysgwyr.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gallu sgwrsio â chwsmeriaid ac ymateb i ohebiaeth yn hyderus ac yn hawdd drwy gyfrwng y Gymraeg
Dyddiad Cau: 26 Ionawr 2021
Cliciwch yma i gael Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
I wneud cais, cliciwch ‘Gwneud Cais Ar-lein’