37 awr yr wythnos
Cyfnod penodol hyd at 12 mis
Diben y rôl yw darparu hyfforddiant mewn swydd i'r ymgeisydd llwyddiannus er mwyn datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â rheoli cyfleusterau fel rhan o fframwaith prentisiaeth (gan gynnwys cyflawni cymhwyster Gwasanaethau Cyfleusterau Lefel 2 gyda darparwr hyfforddiant priodol). Bydd hyn yn cynorthwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaeth effeithlon ac ymatebol i'r ystad gorfforaethol.
Mae mynediad i drafnidiaeth bersonol ac yn meddu ar drwydded yrru lawn, gyfredol yn hanfodol.
Ni ystyrir ceisiadau gan y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc neu'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gradd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Iau 10 Mawrth 2022
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’