37 awr yr wythnos
Ty mor
Glyn Cynffig
Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn eu cael ar bobl ifanc a'r angen am wasanaethau a dulliau sy'n cael eu llywio gan drawma sy'n ystyried pob agwedd ar eu hanghenion
A ydych yn llawn cymhelliant, ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc sydd wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod?
A ydych am ddatblygu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol a'r cyfle i ennill cymwysterau?
A oes gennych werthoedd da, yn rhadlon gyda phersonoliaeth hwyliog a hyderus a'r gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm?
A ydych am gael y cyfle i fod yn rhan o dîm sy'n datblygu ac yn gweithredu model gwasanaeth newydd, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru?
Os felly, darllenwch ymlaen oherwydd rydym am glywed gennych……..
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu gwasanaeth mewn ymateb i'r angen am gymorth ychwanegol, ymyriadau therapiwtig a llety i bobl ifanc (18+) sydd ag anghenion cymhleth. Bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo pob unigolyn ar ei lwybr pontio tuag at ddatblygu cydnerthedd emosiynol, sgiliau byw a bywyd annibynnol.
Bydd staff yn derbyn hyfforddiant pwrpasol a chymorth parhaus mewn Dadansoddiad Ymddygiadol Cymhwysol
Mae'r gwasanaeth yn anelu'n benodol at ddiwallu anghenion o leiaf pedwar person ifanc 18-21 oed sydd ag anghenion cymhleth nad yw modelau ‘traddodiadol’ o gymorth ac opsiynau tai yn addas iddynt. Byddwn yn darparu llety ar gyfer hyd at bedwar unigolyn ac allgymorth am gyfnod o amser y cytunwyd arno ar ôl iddynt symud ymlaen.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 24 Ebrill 2024
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr