16 awr yr wythnos
Mae gwasanaeth seibiant Bakers Way ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu gofal seibiant tymor byr i blant a phobl ifanc ag anableddau/anghenion iechyd cymhleth o'u genedigaeth hyd at 18 oed.Rydym yn chwilio am Weithiwr Gofal Preswyl gofalgar a brwdfrydig, a fydd yn rhoi ein plant a'n pobl ifanc wrth wraidd popeth a wnânt.Yn y rôl bwysig a gwerth chweil hon, byddwch yn darparu pob agwedd ar ofal, ar sail unigol a grŵp, gan gynnwys paratoi pobl ifanc ar gyfer annibyniaeth.Fel gweithiwr preswyl, yn ein tîm cymorth gofal, byddwch yn helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, ac yn ymgymryd â dyletswyddau cartref, yn ogystal â rhai tasgau unigol a chymorth cymdeithasol er mwyn galluogi'r plant a'r bobl ifanc yn ein gofal i ffynnu a datblygu'n fwy annibynnol.Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm, sy'n gallu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn. Dylech hefyd allu cyd-dynnu'n dda â phlant a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill yn y maes.Yn ddelfrydol, byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 neu gyfwerth, a nodwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Neu'n barod i gwblhau'r cymhwyster drwy'r rôl.Mae ein pobl ifanc yn derbyn gofal ar sail 24 awr. Oherwydd bod y swydd yn un breswyl, bydd yn ofynnol i chi weithio yn ystod yr wythnos, a phenwythnosau. Mae disgwyliad i weithio naill ai bore, prynhawn a rhai cyfnodau cysgu i mewn i gefnogi hyn.Bydd ymarfer ysgrifenedig 10 munud a phroses gyfweld 30 munud.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: 22 Hydref 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb PersonI ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’