37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i'r Uwch-weithwyr Cymdeithasol gorau ymuno â ni i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rydym newydd gwblhau ailstrwythuro er mwyn sicrhau amrywiaeth ehangach o lwybrau i blant â phrofiad o fod mewn gofal. Mae hyn wedi arwain at greu 4 tîm rheoli achosion llai a bydd dull seiliedig ar gryfderau yn sail i hyn o fewn amgylchedd cydweithredol a chefnogol. Rydym bellach yn recriwtio ar gyfer Uwch-ymarferydd i'w leoli mewn Tîm Diogelu prysur gan weithio gyda theuluoedd mewn sefyllfaoedd cymhleth a darparu ymateb cryf i anghenion a phryderon a nodwyd.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch â ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu gwerth chweil lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae hyn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr â diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli â'n timau ardal, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Maent wedi'u lleoli mewn tair canolfan gymunedol ledled y fwrdeistref. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas â Phlant ag Anableddau a Phobl Ifanc 16 oed a hŷn y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Yn 2020 yng Ngofal Cymdeithasol Plant gwnaethom lansio'r model Gwaith Cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau sy'n sail i'n holl arfer ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd yr holl staff newydd yn cael cyfres o hyfforddiant a fydd yn eu cynorthwyo i ddatblygu eu harfer mewn perthynas â'r model. Yn ogystal rhoddir opsiynau hyfforddi a datblygu i'r Uwch-weithwyr Cymdeithasol ac opsiynau i wella eu setiau sgiliau a'u cynorthwyo â chyfleoedd datblygu o fewn y sefydliad.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Kerry Germain ar 01656 642382
Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Hydref 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb PersonI ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’