37 hours per week
Cyfnod Penodol hyd at 24 mis
Rydym yn chwilio am unigolion gofalgar, parchus a dibynadwy sydd â diddordeb mewn dechrau gyrfa ym maes gofal cymdeithasol. Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn brentis gofal cymdeithasol a fydd yn gweithio mewn lleoliadau gwahanol ar draws ein gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion, gofal a chymorth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac mae'r rhain yn cynnwys; gofal cartref, cartrefi gofal preswyl i bobl hŷn, llety byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu / cyflyrau iechyd meddwl a chyfleoedd gwasanaeth dydd.
Byddwch yn cael hyfforddiant mewn swydd, profiad a chymorth i gyflawni Cymhwyster Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Bydd y Dyfarniad Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn eich helpu i ddatblygu eich gallu i gefnogi'n ymarfer anghenion gofal a chymorth oedolion mewn amrywiaeth o leoliadau ac i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiad, sgiliau ac ymarfer mewn lleoliad gofal cymdeithasol. Mae cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus yn galluogi unigolion i weithio fel gweithiwr gofal cymdeithasol cymwys mewn rolau Lefel 2 ar draws y sector Gofal Cymdeithasol. Bydd hefyd yn eich galluogi i wneud cais am gofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cartref / preswyl i oedolion.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan y rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol na'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gradd yn yr un maes.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Claire Holt, Rheolwr Datblygu'r Gweithlu drwy SCWDP@bridgend.gov.uk
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 12 Awst 2020
Dyddiad y Ganolfan Asesu: Dydd Gwener 21 Awst 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’