37 awr yr wythnos
Rydym wedi symud o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau i greu dull integredig o ddarparu gwasanaethau i bobl ag anabledd corfforol.
Byddwch yn rhan o'r Tîm Annibyniaeth Gymunedol a Llesiant, gan weithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a darparu gwasanaethau gwaith cymdeithasol i bobl â chyflyrau cymhleth hirdymor ac anabledd. Mae'r tîm amlddisgyblaethol integredig hwn yn cynnwys gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol; nod y tîm yw gwella mynediad i wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth personol i bobl ag anabledd corfforol. Mae'r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ganlyniadau i unigolion, gan sicrhau'r potensial mwyaf posibl a lleihau risg i annibyniaeth, gyda phwyslais ar ddewis a rheolaeth. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu darpariaeth integredig sy'n canolbwyntio ar y person a bydd gan y swydd hon rôl allweddol i'w chwarae o ran cyfrannu at y datblygiadau parhaus hyn.
Byddwch yn:- Gweithio fel rhan o dîm mewn hinsawdd o newid;- Rheoli llwyth achosion mewn amgylchedd prysur;- Datblygu perthnasoedd proffesiynol yn y Gyfarwyddiaeth, y Bwrdd Iechyd ac ar draws ffiniau asiantaethau.- Defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y person o ran arfer
Os ydych yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig â diddordeb mewn gweithio gyda phobl ag anghenion cymhleth neu wybodaeth am hyn a phrofiad ohono, hoffem glywed gennych.
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i http://www.socialworkbridgend.wales/ neu ffoniwch Jane Cullen neu Iain McMillan ar 01656642346
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 6ed Mai 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’