Oriau achlysurol
Dewch i ymuno â'n Tîm Gofal Cymdeithasol Cartref Mewnol ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant a hoffai helpu pobl, bydd croeso i chi yn ein Gwasanaeth Cartref mewnol. Rydym yn cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain i gynnal eu hannibyniaeth, adennill, gwella a chynnal sgiliau byw bob dydd, darparu'r canlyniadau gorau i bobl y mae angen gofal a chymorth arnynt mewn amgylchedd diogel. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu ar eich pen eich hun. Byddwch yn cydweithio'n agos â nyrsys ardal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Rydym yn chwilio am bobl sydd â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu dangos parch, yn gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt. Byddwch yn dda am wrando a bydd gennych sgiliau cyfathrebu da ac yn gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Dewch i ymuno â'n tîm ymroddedig, ymrwymedig a gwych.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 20 Hydref 2021
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’