18.5 awr yr wythnos
Dyma adeg gyffrous i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol ymuno â’n pwynt mynediad cyffredin amlddisgyblaethol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd egnïol ac ymroddedig yn y Pwynt Mynediad Cyffredin ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym wedi ailalinio’r holl bwyntiau cyswllt ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol yn un Pwynt Mynediad Cyffredin amlddisgyblaeth sy’n cefnogi unigolion drwy gyfeirio, rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a sicrhau bod atgyfeiriadau'n mynd i'r llwybrau gofal y cytunwyd arnynt. Byddwch yn arloesol ac yn ymrwymedig i gydgynhyrchu atebion sy’n adlewyrchu cryfderau pobl. Byddwch yn meddu ar y sgiliau a’r ysgogiad i gydgynhyrchu atebion gydag unigolion. Fel rhan o’r gwasanaeth gwaith cymdeithasol tymor byr byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Pwynt Mynediad Cyffredin i ddatblygu eich gwybodaeth am wasanaethau lleol sy’n hyrwyddo cadernid ac annibyniaeth unigol. Byddwch yn gweithio’n agos gydag ystod o weithwyr proffesiynol yn y Tîm Adnoddau Cymunedol ehangach er mwyn hwyluso mynediad i’r Gwasanaethau Tymor Byr ac Ailalluogi, y Tîm Clinigol Acíwt, Gwasanaeth Teleofal Bridgelink a’r Gwasanaeth Offer Integredig.
Byddwch yn rhan allweddol o’r Gwasanaethau Cymunedol Integredig sy’n ceisio cymryd ymagwedd integredig at wasanaethau sy’n cynorthwyo pobl i barhau i fyw yn yr amgylchedd o’u dewis drwy atal mynd i’r ysbyty neu gartref gofal os gellir osgoi hynny a gweithio’n agos gyda gwasanaethau rhyddhau o’r ysbyty i gefnogi anfon claf adref.
Byddwch yn:
gweithio fel rhan o dîm mewn hinsawdd o newid;rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad a chyfeirio pobl i adnoddau cymunedolhyrwyddo asesiad canlyniadau lles cyfannol i bobl y mae angen gofal a chefnogaeth arnyntatgyfeiriadau brysbennu i lwybr asesudatblygu perthnasoedd proffesiynol yn y Gyfarwyddiaeth, y Bwrdd Iechyd ac ar draws ffiniau asiantaeth;o ran arfer, defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y person;cwblhau rhaglen hyfforddi addas yn unol â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
Mae canlyniad boddhaol gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 27 Hydref 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’