37 awr yr wythnosCyfnod Penodol 24 misFel arwydd o weledigaeth ac ymrwymiad y cyngor i sicrhau gweithlu gofal cymdeithasol hyderus, cymwys, llawn cymhelliant ac ymgysylltiedig, gwnaed buddsoddiad i greu rôl bwrpasol i reoli a hyrwyddo rhaglen y gweithlu gofal cymdeithasol. Gan weithio o fewn adnoddau dynol/datblygu trefniadaethol, byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Uwch Dîm Rheoli yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a chydweithwyr corfforaethol, yn ogystal â chymryd rhan mewn prosiectau gweithlu ar draws y sector cyfan.Byddwch yn defnyddio eich profiad o weithio mewn amgylchedd gofal cymdeithasol neu adnoddau dynol ochr yn ochr â'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o'r materion recriwtio a chadw sy'n wynebu'r sector i wneud cyfraniad sylweddol at flaenoriaeth allweddol hon y cyngor.A chithau'n llunio ac yn cyflwyno elfennau o'r rhaglen gweithlu gofal cymdeithasol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch profiad rheoli prosiectau sefydledig ac yn chwarae rôl arweiniol wrth ddatblygu a chefnogi rhaglen o brosiectau perthnasol
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle delfrydol ar gyfer secondiad; rhaid ceisio cytundeb eich rheolwr llinell cyn gwneud cais am y swydd wag er mwyn sicrhau y gallwch gael eich rhyddhau o'ch swydd barhaol.I drafod y rôl, yn y lle cyntaf, anfonwch neges e-bost at: Debra.beeke@bridgend.gov.uk
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 30 Tachwedd 2022 Dyddiad llunio rhestr fer: 5 Rhagfyr 2022 Dyddiad Cyfweld: 12 Rhagfyr 2022
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’