Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr gan ein bod wedi mynd ati'n ddiweddar i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen iddynt fod yn Derbyn Gofal.
Mae Maple Tree House yn darparu gwasanaeth asesu, gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 8 ac 17 oed. Gellir gosod hyd at chwech o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn Maple Tree House ar unrhyw un adeg: pedwar yn yr uned asesu a dau yn yr uned argyfwng.
Mae gan Maple Tree House dîm staff sy'n ymrwymedig i ddarparu profiad cefnogol i blant a phobl ifanc.
Mae Maple Tree House yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n cael ei lywio gan drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau cydnerthedd a hunanofal.
Mae gan Maple Tree House Ddadansoddwr Ymddygiad Ymgynghorol ar y safle sy'n cydlynu'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac sy'n gweithio gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol neu beryglus a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
A chithau'n Rheolwr Preswyl bydd angen i chi fod wedi cymhwyso i ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol (Rheoli Preswyl Plant a Phobl Ifanc) Cymru neu gymhwyster rheoli a gofal plant fel y rhestrir yn y fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd angen i chi fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd.
Mae angen rheolwr cryf a phrofiadol arnom a fydd yn arwain y cartref ac yn cyflawni ein nod o ddarparu gwasanaeth eithriadol
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 30 Medi 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’