27 awr yr wythnos
£22,183 y flwyddyn
Mae'r Gwasanaeth Cyswllt dan Oruchwyliaeth yn rhan o'r timau Gwaith Cymdeithasol Plant â Phrofiad o fod mewn Gofal, gan alluogi gweithio'n agos gyda chydweithwyr ym maes gwaith cymdeithasol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm prysur newydd ei ddatblygu yn benodol i blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan gynnig cyswllt o ansawdd uchel i blant, sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, a'u teuluoedd. Mae cyswllt wedi'i deilwra i anghenion y plentyn unigol a gellir ei gynnal mewn nifer o leoliadau, y gymuned neu weithiau gall y cyswllt ddigwydd yng nghartref y teulu.
Byddwch yn gweithio o dan arweiniad Rheolwr Tîm a gweithwyr cymdeithasol sy'n gyfrifol am achosion, gan ddarparu cymorth sydd wedi'i deilwra i anghenion y teulu.
Mae profiad o weithio gyda phlant a'u teuluoedd yn hanfodol, a dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster perthnasol ym maes gofal cymdeithasol o ran gweithio gyda phlant a'u teuluoedd.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor. Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: 04 Awst 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb PersonI ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’