Llwybrau i Ofal
Yn ystyried gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion?
Rydym wedi ymuno â Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i lansio cwrs newydd sbon i'ch cynorthwyo i fynd i faes Gofal Cymdeithasol ac archwilio eich angerdd am helpu pobl yn y gymuned.
Os ydych yn unigolyn tosturiol a meddylgar sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa werth chweil ac ystyrlon mewn gofal, yna gallai'r cwrs hwn fod yn ddelfrydol i chi. Byddwch yn treulio 2 wythnos yn cael hyfforddiant am ddim ac achrededig, gan glywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n gweithio i wasanaethau gofal oedolion yn CBSP ar hyn o bryd neu sy'n cael cymorth ganddynt, ac yn cymryd rhan mewn gweithdai llawn gwybodaeth i roi mewnwelediad go iawn i chi o weithwyr Gofal Cymdeithasol anhygoel Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae hwn yn gyfle unigryw i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r rolau amrywiol mewn Gofal Cymdeithasol.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i rymuso'r rhai nad oes ganddynt fawr ddim profiad mewn Gofal Cymdeithasol, neu ddim profiad o gwbl, neu i'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa, ond rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sydd â diddordeb.
A ydych wedi gofalu am aelod o'r teulu yn y gorffennol neu wedi dymuno bod mwy y gallech ei wneud i gynorthwyo'r rhai agored i niwed yn eich cymuned? Ymunwch â ni i sbarduno gyrfa sy'n newid bywydau.
I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen ganlynol a nodi ‘Llwybrau i Ofal’ o dan yr adran ‘Enw'r Atgyfeiriwr. Ar ôl ei chyflwyno, bydd aelod o'r tîm cyflogadwyedd yn cysylltu â chi i drafod y cwrs yn fanylach. Nid oes angen i chi fod wedi cofrestru gyda Chyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr i gael mynediad i'r cwrs hwn.
Ffurflen Datgan Diddordeb
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa.Salway-Smith@bridgend.gov.uk.
Beth mae'r rhaglen hon yn cynnwys?
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Anabledd Dysgu AM DDIM
Hyfforddiant Dementia AM DDIM
Cymorth Cyntaf Brys AM DDIM
Hyfforddiant Sgiliau Meddyginiaeth AM DDIM
Hyfforddiant Cyflwyniad i Ofal AM DDIM
Profiad Cyfweliad gyda rheolwyr gwasanaethau go iawn
Cymorth a chyngor llesiant
Cwrdd â'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth, clywed ganddynt a sgwrsio â nhw.
Cwrdd â rhai o'r unigolion anhygoel y gallech eu cefnogi.
Mae ein rhaglen gyntaf yn rhedeg o ddydd Mawrth 7 Mai tan ddydd Iau 16 Mai. Bydd angen i chi fod ar gael o 9:30am – 3pm ddydd Mawrth 7 Mai i ddydd Iau 9 Mai, a dydd Llun 13 Mai i ddydd Iau 16 Mai.