37 awr yr wythnos
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol cymwysedig a phrofiadol ymuno â'r tîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Dyma wasanaeth arbenigol i oedolion â salwch meddwl difrifol a pharhaus. Mae'r tîm yn cwmpasu gogledd Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Nod y tîm Iechyd Meddwl yw cynorthwyo pobl i fyw yn eu dewis amgylchedd drwy atal achosion y gellir eu hosgoi o fynd i'r ysbyty a chynorthwyo rhyddhau cleifion o’r ysbyty.
Eich rôl fydd asesu anghenion pobl yn y gymuned ac yn yr ysbyty a gweithio gyda hwy a'u gofalwyr i wella a chynnal annibyniaeth gartref.
Fel aelod o'r tîm byddwch yn rhannu ag aelodau eraill y cyfrifoldeb am weithredu'r gwasanaeth yn effeithiol a chymryd rhan yn ei ddatblygiad parhaus.
Yn ddelfrydol byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant AMHP. Os nad ydych, bydd disgwyl i chi wneud hynny pan fo hynny'n briodol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, ffoniwch Glynis Evans ar 01656 642259.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 4 Awst 2021