Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, efallai yr hoffech ystyried dod yn Gynorthwyydd Personol. Mae Cynorthwyydd Personol yn cefnogi pobl y mae angen help arnynt oherwydd eu hoedran neu anabledd, i'w galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl.
Os oes gennych brofiad eisoes o weithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion agored i niwed, hoffem glywed gennych. Gallai eich profiad fod o rolau tebyg neu gyfleoedd eraill fel lleoliad gwaith, eich bywyd personol, gwirfoddoli, neu fel rhan o raglen hyfforddi.
Yn dibynnu ar y rôl, nid oes angen cymwysterau arnoch bob amser. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw meddu ar y gwerthoedd, yr ymddygiad a'r agweddau cywir i weithio'n effeithiol gyda phobl y mae angen gofal a chymorth arnynt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fanylach, ffoniwch ein tîm taliadau uniongyrchol ar Pen-y-Bont ar Owgr (01656) 642144. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost y tim yn directpayments@bridgend.gov.uk
Os nad oes unrhyw swyddi gwag addas ar hyn o bryd, gallwch gofrestru eich manylion o hyd, i gael gwybod am y cyfleoedd swyddi diweddaraf.
Nodwch: Mae'r Cyngor yn gweithredu ar ran trydydd parti ac ni fydd yn gyflogwr i chi, nac yn atebol am unrhyw faterion sy'n codi o'ch cyflogaeth, os cewch gynnig cyflogaeth.