28 awr yr wythnos
Dros dro am hyd at flwyddyn
Yn Nhŷ Harwood rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth preswyl 52 wythnos o ansawdd ar gyfer hyd at dri o blant/bobl ifanc a chanddynt anghenion cymhleth gan gynnwys anabledd dysgu rhwng wyth a phedair ar bymtheg oed (mae'r terfyn oedran pedair ar bymtheg yn berthnasol i unrhyw berson ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.)
Mae'r gwasanaeth wedi'i leoli o fewn tir yr ysgol hon gan alluogi rhwyddineb mynediad i'r ysgol ar gyfer y plant/pobl ifanc. Yn ogystal, meithrin cysylltiad agos rhwng staff a dealltwriaeth a rennir o anghenion cymhleth y plant/pobl ifanc a chysondeb dull o ran gweithio gyda'r plant/pobl ifanc sy'n cynorthwyo gwell canlyniadau.
Mae'r gwasanaeth yn galluogi plant/pobl ifanc ag anghenion cymhleth nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd i barhau i fynd i'w hysgol arbennig a pharhau i fyw yn lleol gyda'u teulu, ffrindiau a'r ysgol. Gan weithio fel rhan o dîm mae'n ofynnol ichi ddarparu pob agwedd ar ofal ar sail unigol ac fel grŵp, byddwch yn cymryd rhan wrth helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, ac ymgymryd â dyletswyddau cartref yn ogystal â rhai tasgau unigol a datblygu sgiliau annibyniaeth pobl ifanc
Rhaid ichi allu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn, a gallu gweithio fel rhan o dîm ac ymwneud yn dda â phlant a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl ifanc neu gymhwyster cyfatebol fel y nodir gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os na, rhaid i'r ymgeisydd fod yn barod i weithio tuag at Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc.
Oherwydd bod hon yn swydd mewn man preswyl, bydd angen ichi ymgymryd â rhywfaint o weithio ar benwythnosau a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: Dydd Mercher 12 Awst 2020
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’