37 awr yr wythnos
A ydych yn chwaraewr tîm gyda sgiliau rhyngbersonol datblygedig iawn ac yn gallu gweithio ar eich menter eich hun. A ydych yn hoffi her ac amrywiaeth?Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rydym yn trawsnewid y ffordd rydym yn rheoli ein hystad eiddo. Rydym yn rheoli portffolio eiddo amrywiol, o ysgolion i ystadau diwydiannol ac o gartrefi gofal i swyddfeydd. Rydym yn gweithredu dull Landlord Corfforaethol - gan ddwyn ynghyd y rheolwyr sy'n arwain ein timau rheoli eiddo strategol, dylunio a Rheoli Cyfleusterau caled/meddal.Rydym yn chwilio am saer coed brwdfrydig i ymuno â'r tîm cynnal a chadw i ddarparu gwasanaeth eang, ar draws portffolio eiddo'r Cyngor. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gosod ac yn atgyweirio cyfleusterau sy'n bodoli eisoes. Croesawu technolegau datgarboneiddio newydd wrth i'r tîm ddatblygu sgiliau newydd i helpu'r Cyngor i leihau ei ôl-troed carbon.A chithau'n gweithio dan gyfarwyddyd Goruchwylydd mewn tîm gwaith saer bach sy'n gyfrifol am wneud gwaith yn unol â rheoliadau/gweithdrefnau iechyd a diogelwch presennol, byddwch yn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i gydymffurfio ac yn ddiogel.Felly, os ydych yn credu eich bod yn addas ac yn awyddus i wneud rhywbeth ychydig bach mwy gwobrwyol, cysylltwch â ni a dywedwch wrthym beth y gallwch ei wneud!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 08 Mai 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person