37 awr yr wythnos
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Ymarferydd Gwaith Cymdeithasol profiadol i ymuno â'n Tîm Fforensig rhanbarthol yng Nghlinig Caswell. Yng Nghlinig Caswell rydym yn canolbwyntio ar ganlyniadau unigol i gleifion ac mae gennym ddiddordeb mewn pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol sy'n troseddu. I ymuno â'n tîm bydd angen ymrwymiad cryf arnoch i safon uchel o ofal a rheoli risg.
Byddwch yn gweithio gyda thîm clinigol amlasiantaethol sefydledig ar draws y byrddau iechyd ac ar draws awdurdodau lleol eraill yn ne Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn amgylcheddau diogel yn ogystal ag yn y gymuned. Byddwch yn rhan o dîm sy'n galluogi i feysydd o ddiddordeb penodol gael eu datblygu a chyda mynediad at hyfforddiant arbenigol mae digon o gyfleoedd i gyflwyno hyfforddiant i garfan ehangach.
Ar gyfer y rôl hon, byddwch yn unigolyn cydnerth sydd â ffiniau, ac sy'n gallu gweithio'n greadigol mewn amgylchedd heriol a gwerth chweil. Mae sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol, ar gyfer cynrychioli anghenion y cleifion ag uniondeb a sensitifrwydd. Ni fydd angen profiad penodol mewn iechyd meddwl arnoch, os oes gennych sgiliau trosglwyddadwy gallai'r arbenigedd hwn fod ar eich cyfer chi. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy, gallwn gynnig ymweliad â'r Tîm Gwaith Cymdeithasol Fforensig a thrafodaeth cyn i chi ymrwymo i gais.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster perthnasol ym maes Gwaith Cymdeithasol a phrofiad ôl-gymhwyso sylweddol.
I drafod y swydd hon, ffoniwch Susan Brown – Rheolwr Dros Dro ar 01656 753059 neu anfonwch neges e-bost at susan.brown@bridgend.gov.uk
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 16 Mai 2024
Dyddiad y Cyfweliad: 29 Mai 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person