37 awr yr wythnos
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm Diogelu Oedolion a Sefydliadau Diogel. Rydym yn chwilio am Reolwr Cynorthwyol i arwain elfen ymarfer Amddiffyn a Diogelu Oedolion, ac i barhau i wella'r ffordd rydym yn darparu gwasanaeth o ansawdd i'r bobl hynny sy'n cysylltu â ni.
Dylech hefyd feddu ar brofiad o flaenoriaethu ac asesu risg er mwyn sicrhau ymatebion effeithlon a phriodol i'r atgyfeiriadau Diogelu a dderbynnir. A chithau'n gyfathrebwr gwych ac yn gallu datblygu perthynas waith gref gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gefnogi darparu gwasanaeth rhagorol.
Bydd Rheolwr y Tîm Diogelu a Sefydliadau Diogel yn sicrhau, drwy'r tîm, bod pobl yn cael gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol ac o ansawdd uchel cyson.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: 12 Awst 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'