20 awr yr wythnos
Mae'r Tim Adnoddau Cymunedol yn wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n darparu amrywiaeth o ymyriadau tymor byr i bobl yn eu cartrefi eu hunain er mwyn hyrwyddo eu hannibyniaeth.
Byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran cefnogi Gwasanaethau'r Tim Adnoddau Cymunedol i gyflawni ei nodau i gynorthwyo pobl i barhau i fyw yn eu hamgylchedd a ddewiswyd drwy atal achosion y gellir eu hosgoi o fynd i'r ysbyty neu gartref gofal a hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty. Byddwch yn darparu cymorth Cartref a Therapi ar draws y gwasanaeth.
Bydd disgwyl i chi ddarparu cymorth sy'n galluogi i nifer o bobl sydd wedi colli eu sgiliau am amrywiaeth o resymau gwahanol. Rhoi anogaeth, hyrwyddo annibyniaeth a meithrin hyder.Byddwch hefyd yn rhoi cymorth gyda gofal personol a pharatoi prydau fel sy'n ofynnol ar draws ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r gwasanaeth (ac eithrio Ymateb Symudol) ar hyn o bryd yn gweithredu'n ddyddiol rhwng 7:30am a 10:00pm ac mae'n ofynnol i'r staff weithio rhwng yr oriau hyn er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr gwasanaethau. Bydd gofyn i chi weithio ar benwythnosau, ac ar wyliau banc os bydd angen. Byddwch yn derbyn cyfradd uwch sy'n gyfwerth ag amser a thraean am yr oriau hyn. Rhaid i chi fod yn ymrwymedig, yn frwdfrydig ac yn hyblyg. Mae trwydded yrru lawn a mynediad i'ch trafnidiaeth eich hun yn hanfodol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Sharman Williams ar 01656 865788.
Dyddiad Cau: Dydd Mercher, 11eg Mawrth 2020.
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'