Contractau ar gael:
37 awr yr wythnos
25 awr yr wythnos
20 awr yr wythnos
16 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gofal a chymorth. Rydym yn ceisio recriwtio staff cymorth newydd gwych. Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a hoffai helpu pobl yna bydd croeso i'ch sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiad.
Byddwch yn chwarae rhan hanfodol mewn tîm wrth helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn chwilio am bobl â'r gwerthoedd cywir, pobl sy'n gadarnhaol ac yn ofalgar, sy'n gallu cyfrannu at fywydau pobl a gwneud gwahaniaeth iddynt, gyda sgiliau cyfathrebu da ac sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol.
Mae ein gwasanaeth Cymorth Gartref yn gweithio gyda llawer o weithwyr proffesiynol yn y gymuned, fel Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, a Therapyddion Galwedigaethol i gefnogi dewis pobl i fyw gartref. Rydym yn cefnogi pobl ag anghenion gwahanol a allai fod yn gyfuniad o anghenion corfforol, synhwyraidd neu iechyd meddwl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi rhaglenni adsefydlu tymor byr yn y gymuned gan helpu pobl i adennill sgiliau coll neu ddysgu ffyrdd newydd o sicrhau cymaint o annibyniaeth â phosibl iddynt;
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 7.30am a 10.00pm yn bennaf. Fel rhan o dîm, bydd eich patrwm gwaith yn cynnwys rhai penwythnosau a gwyliau banc a byddwch yn cael hysbysiad ymlaen llaw o'ch diwrnodau gwaith a gorffwys sydd wedi'u trefnu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector.
Mae gennym amrywiaeth o oriau dan gontract i'w cynnig i chi yn eich Gwasanaeth Cymorth Gartref; mae'r rhain yn cynnwys contractau sy'n seiliedig ar 16, 20, 25 a 37 awr yr wythnos a fydd yn cael eu trafod gyda chi ymhellach wrth i chi symud ymlaen drwy'r broses recriwtio.
Byddwch yn meddu ar drwydded yrru lawn ac yn gallu defnyddio eich car eich hun.
I ddysgu rhagor am rôl y swydd gwyliwch fideo byr yma neu ffoniwch Angela Davies neu Janet Morgan, Rheolwyr Gweithredol ar 01656 815010 / 01656 754958 i drafod y swyddi'n fanylach.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 27 Hydref 2021
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb PersonI ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’