37 awr yr wythnos
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol. Rydym am i'r Gweithwyr Cymdeithasol gorau ymuno a ni - i asesu a chynorthwyo'r plant a'r teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn sefydliad myfyriol sy'n adeiladu ar ei gryfderau yn barhaus ac sy'n ymrwymedig i'r egwyddor mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella canlyniadau i'r holl Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yw drwy ddarparu gwasanaethau hygyrch, cyffredinol. Ymunwch a ni a byddwch yn gweithio mewn amgylchedd dysgu gwerth chweil lle mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae ein gwasanaethau cymorth wedi'u targedu i deuluoedd wedi'u cyd-leoli yn ein canolfannau diogelu, i ddarparu continwwm o wasanaethau yn amrywio o gymorth cynnar i ddarpariaeth ddwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Mae ein timau diogelu wedi'u lleoli mewn tair canolfan gymunedol ledled y fwrdeistref. Yn ogystal, mae gennym dimau sy'n cynnig arbenigedd mewn perthynas a Phlant ag Anableddau a Phobl Ifanc 16 oed a hyn y mae ganddynt hawl i wasanaethau gadael gofal.
Ar hyn o bryd rydym yn ailfodelu ein gwasanaethau i sicrhau amrywiaeth ehangach o lwybrau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal. Ochr yn ochr a hyn ceir adolygiad o'n gwasanaethau maethu presennol ac adnoddau newydd arloesol i gynorthwyo aelwydydd gofalwyr maeth.
Aeth ein canolfan MASH (Canolfan Ddiogelu Amlasiantaeth) yn fyw ym mis Ebrill 2018. Mae hyn yn ymgorffori gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ochr yn ochr a diogelu ein plant a'n hoedolion mwyaf agored i niwed.
Rydym yn annog ceisiadau gan Weithwyr Cymdeithasol profiadol a'r rhai yn eu dwy flynedd gyntaf o wasanaeth. Yn gyfnewid byddwch yn cael cyfnod sefydlu cadarn, goruchwyliaeth reolaidd, cymorth ychwanegol a mentora lle y bo angen. Gwnaeth ein rhaglen gymorth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ennill gwobr 'Datblygu gweithlu hyderus a chynaliadwy' yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru 2018. Yn ogystal byddwch yn gallu datblygu eich gyrfa ymhellach gyda chyfleoedd datblygu a hyrwyddo.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ewch i http://www.socialworkbridgend.wales/ neu ffoniwch Iain McMillan ar 01656642346
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 3 Mehefin 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'