37 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â'n rhwydweithiau cymunedol integredig. Rydym yn awyddus i benodi gweithiwr cymdeithasol egnïol, brwdfrydig, amser llawn parhaol yn Rhwydwaith Cymunedol Integredig y Gorllewin. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, nyrsys ardal a therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapydd a nyrs seiciatrig gymunedol sy'n gweithio gydag asiantaethau trydydd sector i asesu a chynorthwyo anghenion oedolion a phobl anabl y mae cyflyrau cymhleth ac andwyol hirdymor yn effeithio arnynt yn ogystal â'u gofalwyr a'u teuluoedd. Gan ddefnyddio model gwaith cymdeithasol sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac sy'n seiliedig ar gryfderau, mae'r timau'n cefnogi oedolion anabl ac agored i niwed a'u gofalwyr i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau ac annog cynhwysiant ehangach mewn cymunedau lleol. Ystyrir bod sicrhau llesiant emosiynol mwyaf posibl unigolyn yn allweddol mewn arfer gwaith cymdeithasol effeithiol.
Rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu dulliau arloesol o ran arfer gwaith cymdeithasol. Rydym yn gweithio'n agos gyda meddygon teulu a phartneriaid eraill yn y clwstwr ac yn defnyddio'r Model Gofal Wrth Gefn i atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a chartrefi gofal fel rhan o'n rôl i sicrhau'r annibyniaeth a'r dewis mwyaf posibl. Bydd datblygiad parhaus y model gwasanaeth dynamig hwn yn ei gwneud yn ofynnol gwneud gwaith i ehangu cyfleoedd partneriaeth gyda phartneriaid statudol; y trydydd sector a chydag unigolion o'r gymuned.
Rydym yn chwilio'n arbennig am rywun sydd â diddordeb mewn gwaith cymunedol. Rydym yn awyddus i ddatblygu grwpiau a gwasanaethau cymunedol yn ardal Orllewinol Pen-y-bont ar Ogwr.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon ffoniwch Sue Carlisle - Rheolwr Cynorthwyol Rhwydwaith Cymunedol Integredig y Gorllewin (Gwaith Cymdeithasol) ar 01656 642598.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Llun, 2ail Tachwedd 2020.
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’