16 awr yr wythnos
Mae Bakers Way yn darparu gwasanaeth seibiannau byr o ansawdd uchel i blant anabl a phobl ifanc rhwng eu genedigaeth a deunaw oed, sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd uchafswm o 5 plentyn yn bresennol ar unrhyw adeg a bydd y gwasanaeth yn mynd i'r afael â'u hanghenion gofal a chymorth wedi'u hasesu'n unigol, cynorthwyo eu teuluoedd, a hyrwyddo eu mynediad i wasanaethau a chyfleusterau cymunedol.
Gan weithio fel rhan o dîm mae'n ofynnol ichi ddarparu pob agwedd ar ofal ar sail unigol ac fel grŵp, byddwch yn cymryd rhan wrth helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, ac ymgymryd â dyletswyddau cartref yn ogystal â rhai tasgau unigol a datblygu sgiliau annibyniaeth pobl ifanc
Rhaid ichi allu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn, a gallu gweithio fel rhan o dîm ac ymwneud yn dda â phlant a'u teuluoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl ifanc neu gymhwyster cyfatebol fel y nodir gan Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru. Os na, rhaid i'r ymgeisydd fod yn barod i weithio tuag at Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Craidd a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc.
Oherwydd bod hon yn swydd mewn man preswyl, bydd angen ichi ymgymryd â rhywfaint o weithio ar benwythnosau a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: Dydd Mercher 12 Awst 2020
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’