25 awr yr wythnos
Rydym yn recriwtio staff cymorth i weithio yn ein Gwasanaethau Byw â Chymorth, Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig, greadigol a hyblyg sy'n ymrwymedig i rymuso pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan mewn dewisiadau a phenderfyniadau am bob agwedd ar eu bywyd. Bydd gennych agwedd sensitif sy'n portreadu dealltwriaeth o'r materion a wynebir gan bobl ag anabledd.
Mae dull cadarnhaol a chynorthwyol yn un o ofynion y rôl oherwydd bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo pobl mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person gyda phob maes o anghenion a nodwyd, h.y. corfforol, ymarferol, emosiynol a galwedigaethol. Gall hyn gynnwys tasgau yn y cartref a domestig, siopa a pharatoi bwyd, hylendid personol, gweithgareddau cymdeithasol, cynnig arweiniad a chyngor i alluogi pobl i wneud penderfyniadau hyddysg ac arfer eu hawliau.
Bydd y rôl yn cynnwys annog a chynorthwyo pobl i ddod yn aelodau integredig o'u cymuned leol drwy hyrwyddo presenoldeb corfforol a chymdeithasol mewn cyfleusterau cymunedol e.e. addysgol, galwedigaethol, a chymdeithasol a hamdden
I'ch cynorthwyo yn eich rôl byddwch yn cael hyfforddiant priodol, y cyfle i weithio mewn tîm gyda chymorth gan gydweithwyr, goruchwyliaeth un i un gyda'ch rheolwr llinell, yn ogystal â chyfarfodydd tîm rheolaidd.
Ar gyfer y swyddi hyn, bydd angen ichi fod yn hyblyg a byddwch yn cymryd rhan mewn gwaith sifft. Am ei bod yn ofynnol i chi weithio ar benwythnosau, nosweithiau pan fo angen a gwyliau banc mae gennych hawl i'r gyfradd uwch o amser a thraean ar gyfer yr oriau hyn. Bydd gennych ddyletswyddau cysgu i mewn, (telir lwfans ychwanegol am hyn). Bydd yr oriau'n cael eu trefnu gan reolwr y gwasanaeth ac mae'n amodol ar anghenion y bobl a gefnogir.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: 24 Ebril 2024
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr