20 Awrs dros dro am 6 misRydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau dydd o Ganolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr a'n Canolfannau Cymunedol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed ac sydd ag anabledd dysgu ac i bobl hŷn.A chithau'n gweithio fel Cynorthwyydd Gwasanaeth Dydd, byddwch yn gyfrifol am ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gofal personol i ddiwallu anghenion unigol a rhoi cymorth mewn amrywiaeth o leoliadau yn y gymuned ac mewn lleoliadau gwasanaeth arbennig.A chithau'n ofalgar ac yn sensitif, byddwch yn gallu cyfathrebu'n briodol â phobl ar lefelau gwahanol o allu a byddwch yn barod i ymgymryd â hyfforddiant priodol. Er mwyn bod yn effeithiol yn y rôl hon byddwch yn chwaraewr tîm ac yn meddu ar ddealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud ag anabledd, yn ddelfrydol wedi'i hategu gan brofiad yn y maes hwn.Gan ymuno â'n tîm staff presennol, mae hyblygrwydd yn allweddol oherwydd byddwch yn cyflenwi ar gyfer absenoldebau yn sgil gwyliau a salwch.Os na fyddwch yn llwyddo i gael y swydd yr ydych wedi gwneud cais amdani, gallai fod cyfle o hyd i chi weithio yn y sector gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael profiad a symud ymlaen yn eich gyrfa. Byddwn yn fwy na pharod i drafod amrywiaeth o opsiynau a allai fod ar gael yn y cyfweliad chadarnhau a fyddech yn fodlon i'ch manylion cais gael eu rhannu â darparwyr Gofal Cymdeithasol eraill gan gynnwys yr awdurdod lleol a darparwyr annibynnol a gomisiynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a hoffai helpu pobl, bydd eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn cael eu croesawu yn y sector gofal gan ein bod yn cynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn gweithio'n agos gyda nyrsys ardal, gweithwyr cymdeithasol, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyfleoedd gwych i bobl sy'n dymuno gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol a byddwch yn cael cymorth i fynd ar hyfforddiant a datblygu eich dysgu ymhellach yn ogystal â chyfleoedd i gefnogi dilyniant gyrfa yn y sector. Rydym yn chwilio am bobl â gwerthoedd cadarn, sy'n gallu cyfrannu a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gyda sgiliau cyfathrebu da ac sy'n gallu gweithio fel rhan o dîm aml-sgiliau proffesiynol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg.Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau:30 Tachwedd 2022
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’