37 awr yr wythnos
Cyfnod Penodol am hyd at 12 mis
Mae cyfle cyffrous wedi codi i rywun ymuno â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel prentis Gwasanaethau Cwsmeriaid a dilyn rhaglen brentisiaeth a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ddilyn gyrfa mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ac ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau o dan oruchwyliaeth eich Arweinydd Tîm.
Yn ogystal â hyfforddiant yn y swydd, byddwch hefyd yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol (NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid) a fydd yn eich gosod ar y llwybr i yrfa lwyddiannus.
Yn ogystal, byddwch hefyd yn mwynhau'r manteision gan gynnwys cyflog cystadleuol (uwchlaw'r isafswm cyflog), pensiwn, cymorth llesiant, cerdyn gostyngiadau i staff, y cyfle i gael eich cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith a llawer mwy.
Ni fydd ceisiadau'n cael eu hystyried i'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gyfwerth neu uwch yn yr un maes pwnc na'r rhai sydd eisoes wedi cyflawni cymhwyster ar lefel gradd mewn unrhyw bwnc.
A chithau'n cael hyfforddiant yn y swydd, profiad a chymorth i gyflawni NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid, byddwch hefyd yn cael cyfle i ddysgu am waith y maes gwasanaeth.
Byddwch yn meddu ar sgiliau TGCh da eisoes, gan gynnwys prosesu geiriau a thaenlenni gyda phrofiad o ddefnyddio cynnyrch Microsoft Office neu gyfwerth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfarch cwsmeriaid yn Gymraeg.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 23 February 2022
Clicwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb PersonI ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’