Yn ôl y galw
Rydym wrthi yn chwilio am weithwyr cymdeithasol hyblyg, cymwys, sy'n ymfalchïo'n fawr yn eu gwaith, yn mwynhau'r posibilrwydd o her, ac yn cael eu hysgogi gan ddymuniad gwirioneddol i ddiogelu a helpu plant agored i niwed.
Mae helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc yn flaenoriaeth allweddol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) gan ein bod yn credu eu bod yn haeddu’r gorau.
Bydd gennych lwyddiant blaenorol o weithio mewn lleoliad Gwasanaethau Plant statudol, a gwybodaeth am arfer a deddfwriaeth bresennol. Gan ddangos dull hyblyg o ran gwaith tymor byr, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau, byddwch yn dangos hyblygrwydd tuag at weithio mewn timau diogelu generig, yn ogystal â thimau arbenigol.
Mae hwn yn gyfle gwych os ydych wedi cael egwyl mewn gwasanaeth ac yn dymuno dychwelyd i waith cymdeithasol ar sail hyblyg i weddu i'ch amgylchiadau unigol. Mae hefyd yn cynnig y cyfle i gael rhagor o brofiad mewn lleoliad statudol er mwyn cynnal Datblygiad Proffesiynol Parhaus a bodloni gofynion cofrestru.
Os byddwch yn llwyddiannus byddwn yn ceisio cynnig cyfleoedd i chi sy'n bodloni eich gofynion ac sy'n unol â'r ceisiadau a wnaethoch o ran eich oriau gwaith sydd ar gael. Yr adborth a gawsom gan ymgeiswyr llwyddiannus yw eu bod yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd hwn. Mae Gweithwyr Cymdeithasol sydd ar gamau gwahanol iawn yn eu gyrfa Gwaith Cymdeithasol wedi cael budd o ymgymryd â'r rôl hon, ac mae nifer ohonynt bellach yn aelodau parhaol o'r staff.
Gallai eich rôl gynnwys ymgymryd ag asesiadau, cyflenwi ar gyfer gweithwyr cymdeithasol yn ôl yr angen, rheoli achosion, arwain ar brosiectau penodol ac yn y pen draw bod yn ymatebol ac yn rhagweithiol i anghenion plant a'u teuluoedd.
Credwn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i unrhyw un sydd am ddatblygu ei yrfa ym maes gofal cymdeithasol, yn enwedig am ein bod yn parchu rôl heriol gweithiwr cymdeithasol.
Ymfalchïwn wrth greu trefniadau gweithio hyblyg sy'n addas i bawb. Drwy ymuno â ni, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd gwobrwyol lle ceir ymrwymiad i hyrwyddo cyfleoedd datblygu personol a phroffesiynol, wrth wella perfformiad yn barhaus a sicrhau gwell canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Mae'r nodweddion cyffredin ymhlith pob un o'n cyflogeion yn cynnwys brwdfrydedd, hyblygrwydd, cydnerthedd a dymuniad i ddysgu, datblygu a gwella. Mae gwaith tîm yn hanfodol i'n cyflawniadau ac rydym yn rhoi gwerth mawr ar ddiwylliant cymorth a chydweithio. Felly mae'n hanfodol bod yr holl staff yn gallu cyfrannu'n gadarnhaol tuag at eu tîm a gwaith eu cydweithwyr.
Os oes gennych y profiad, gwybodaeth, uchelgais, ysgogiad ac agwedd i gyfrannu'n wirioneddol at ein gwasanaeth plant yna rydym am glywed gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth am ein swyddi gweithwyr cymdeithasol hyblyg, cymwys, ffoniwch Iain McMillan ar 01656 642346
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 5 Ionawr 2022
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein