22.5 awr yr wythnos
Mae ein Tîm Plant Anabl yn dîm asesu, rheoli achosion rheng flaen sy'n arbenigo mewn darparu cymorth a gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal.
Mae hyn yn ein galluogi i ymateb i blant a theuluoedd ag anghenion cymhleth neu lle ceir pryderon cynnar ynghylch amddiffyn plant. Mae hefyd yn galluogi ar gyfer darparu cymorth ac ymyriad o ansawdd uchel i'r rhai ag anghenion tymor hwy.
Mae cyfle wedi codi i Gynorthwyydd Gwaith Cymdeithasol rhan-amser ymuno â'r Tîm Plant Anabl, a chael profiad gwerthfawr mewn Tîm Gwaith Cymdeithasol Arbenigol prysur, llawn cymhelliant a chefnogol. Byddwch yn ymrwymedig i weithio gyda phlant anabl, eu gofalwyr a'u teuluoedd ac i weithio mewn partneriaeth i ddarparu gwasanaethau o ansawdd.
Mae'r swydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan weithredol wrth ddarparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i deuluoedd, gan gynnwys gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Bydd disgwyl ichi hefyd gynnal adolygiadau a chynorthwyo cydweithwyr yn y tîm Plant Anabl gydag achosion cymhleth ac ymgymryd â thasgau penodol sy'n ymwneud ag achosion. Bydd angen ichi ddangos sgiliau cyfathrebu a threfnu da, dull hyblyg o ran eich gwaith ac ymrwymiad i weithio mewn tîm.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon ac am gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Beverley Whiteley, Rheolwr y Tîm ar 01656 815442
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 11 Mawrth 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch ‘Ymgeisio Ar-lein’