37 awr yr wythnos
6 x swydd ar gael
Cyfnod Penodol hyd at fis Mawrth 2028
A ydych yn angerddol am gynorthwyo plant a phobl ifanc i ffynnu yn eu cartrefi a'u cymunedau? A ydych am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr? Rydym yn chwilio am unigolion ymrwymedig, rhagweithiol i ymuno â'n Tîm Cymorth Lleoliad yng ngwasanaeth maethu Pen-y-bont ar Ogwr.
Y rôl:
A chithau'n Weithiwr Cymorth Lleoliad, byddwch yn cyflwyno cymorth uniongyrchol, dwys i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau maeth, y rhai sy'n dychwelyd adref, a'u gofalwyr. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm ymroddedig sy'n helpu i gynnal sefydlogrwydd lleoliad, cynorthwyo ailuno, a gwella canlyniadau i blant.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyflwyno ymyriadau un i un a grŵp i blant, pobl ifanc, a'u gofalwyr
Cynorthwyo â rheoli argyfwng, rheoleiddio ymddygiad, a chynllunio lleoliad
Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, a theuluoedd
Cadeirio cyfarfodydd rhwydwaith teuluol a chyfrannu at gynllunio gofal
Darparu parhad cymorth a chyngor i deuluoedd maeth
Cymryd rhan mewn rota ar alwad y tu allan i oriau er mwyn cynorthwyo teuluoedd.
Byddwch yn rhan o dîm sy'n ymrwymedig i ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy'n seiliedig ar berthnasoedd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol bob dydd.
Bydd gennych:
Gymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (neu barodrwydd i weithio tuag at Lefel 4)
Profiad o waith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc, a theuluoedd
Gwybodaeth am ddiogelu, datblygiad plant, a deddfwriaeth gofal cymdeithasol gyfredol
Sgiliau cyfathrebu gwych a'r gallu i gydweithio ar draws timau
Dull hyblyg, sy'n seiliedig ar gryfderau ar gyfer gwaith cymorth
Trwydded yrru a mynediad at gerbyd (hanfodol).
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Mae Gweithio ar Benwythnosau, a Dyletswyddau Wrth Gefn yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 15 Hydref 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 17 Hydref 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 31 Hydref & 3 Tachwedd 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person