37 awr yr wythnos
Mae'r Rheolwr Tîm Maethu Cyffredinol yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o wasanaeth profiadol, dynamig a chynyddol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn chwilio am reolwr i gynorthwyo'r tîm Maethu Cyffredinol i gyflawni cymorth o ansawdd uchel i gynorthwyo gofalwyr maeth a'r plant yn eu gofal yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018.Yn y gwasanaeth mae gennym dîm o Weithwyr Cymdeithasol a gweithwyr Cymorth Lleoliad i ddarparu cymorth uniongyrchol i ofalwyr a theuluoedd, gyda chymorth gan Uwch-ymarferydd profiadol. Mae gennym Swyddog Recriwtio penodedig yn ein gwasanaeth ac mae gennym ddull rhanbarthol o recriwtio gyda'n partneriaid yng Nghwm Taf drwy Maethu Cymru. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Tîm Lleoliadau a Swyddog Atgyfeirio Lleoliadau sy'n gyswllt rhwng Lleoliadau Maethu Cyffredinol a Thimau Plant. Mae'r Swyddog yn weithiwr dyletswydd penodedig sy'n cynorthwyo'r gwaith o gwblhau atgyfeiriadau lleoliad o ansawdd uchel ac sy'n nodi darpar ofalwyr maeth i gynorthwyo plant.Fel y Rheolwr Tîm byddwch yn darparu goruchwyliaeth o ansawdd uchel i aelodau o'r tîm, gan hyrwyddo'r gwaith o recriwtio a chadw gofalwyr maeth a chefnogi dod o hyd i leoliad a chomisiynu. Byddwch yn goruchwylio safonau ymarfer, gan sicrhau bod cydymffurfiaeth reoliadol yn cael ei bodloni ac ymgymryd â gweithgareddau sicrhau ansawdd. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Grŵp Gwasanaethau Darparwyr i ddatblygu ymarfer a pholisi yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth a chanllawiau. Rydym hefyd yn gweithio'n agos ochr yn ochr â'r Tîm Perthynas a Sefydlogrwydd sy'n cynorthwyo Personau Cysylltiedig gofalwyr maeth a Gwarcheidwaid Arbennig.Mae'r Tîm wedi'i gyd-leoli â'r timau Plant sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal a thimau 16+ i alluogi cydweithio effeithiol, wedi'i leoli yn y Swyddfeydd Dinesig. Mae gan yr awdurdod lleol drefniadau gweithio hyblyg ar gael gan gynnwys cyfleoedd gweithio hybrid. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel, reolaidd yn ogystal â mynediad at gyfleoedd hyfforddi a gyrfa. Er ein bod yn awdurdod lleol Arwyddion Diogelwch, nid yw hyfforddiant blaenorol a phrofiad o'r model yn ofyniad gan ein bod yn darparu hyfforddiant rheolaidd i gynorthwyo'r holl staff sy'n defnyddio'r model yn ymarferol a swyddog penodedig i gynorthwyo'r timau i integreiddio'r model yn eu trefniadau gweithio bob dydd.Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad o ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith cydweithredol gyda phartneriaid a chynorthwyo staff drwy newid, gydag ymrwymiad i ddysgu a datblygu. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig gyda phrofiad maethu a rheoli a gwybodaeth drylwyr am reoliadau maethu deddfwriaeth plant berthnasol yng Nghymru.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 14 Awst 2024 Dyddiad llunio rhestr fer: 16 Awst 2024 Dyddiad Cyfweld: 03 Medi 2024Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person