37 awr yr wythnos
Rydym yn awyddus i recriwtio cynorthwyydd gweinyddol i gynorthwyo yn y gwaith parhaus o ddatblygu ein Gwasanaeth Teleofal Bridgelink.
Mae Gwasanaeth Teleofal Bridgelink yn wasanaeth technoleg gynorthwyol sy'n helpu pobl agored i niwed i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, gan gynnig cymorth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Gan ddefnyddio uned llinell bywyd, larwm gwddf, neu synwyryddion cymhleth eraill, bydd Teleofal yn seinio larwm drwy alwad ffôn i aelod dewisol o'r teulu, gofalwr, ffrind neu ganolfan fonitro. Yna bydd ein canolfan fonitro yn trefnu cymorth gan ein Tîm Ymateb Symudol 24 awr neu'r gwasanaethau brys, yn ogystal ag unrhyw un sydd wedi'i restru fel cyswllt brys.
Mae'r holl becynnau offer teleofal wedi'u teilwra i anghenion unigolion, gan sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau. Wrth i anghenion newid, gellir addasu'r offer a'r pecyn teleofal.
Gofynion:
A chithau'n weinyddwr cadarn â phrofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa cyflym, bydd gennych sgiliau T.G. da a phrofiad blaenorol o ddefnyddio systemau swyddfa. Gan weithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, bydd gennych sgiliau cyfathrebu da, a'r gallu i weithio o fewn amserlenni llym a bodloni amrywiaeth o derfynau amser.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae Polisi Gweithio Hybrid y cyngor yn berthnasol i'r swydd hon. Mae hyn yn darparu fframwaith ar gyfer sefydlu sut y byddwch yn ymgymryd ag oriau gwaith rhwng eich cartref a'r swyddfa.
Dyddiad Cau: 01 Mai 2024
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person