Yn ol y galw
Rydym yn chwilio am bobl llawn cymhelliant sy'n gallu bod yn hyblyg wrth weithio. Fel Gweithiwr Preswyl Achlysurol byddwch yn cael eich galw i gyflenwi pan fydd diffygion staffio yn y darpariaethau preswyl i blant a weithredir gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr.
A chithau'n gweithio fel rhan o dim, mae'n ofynnol i chi ddarparu pob agwedd ar ofal ar sail unigol a grwp, byddwch yn cymryd rhan wrth helpu i weithredu cynlluniau gofal unigol, yn ogystal a rhai tasgau unigol, byddwch yn cynorthwyo pobl ifanc i ddatblygu sgiliau annibyniaeth, gall y gwaith hefyd gynnwys gwaith allgymorth i gynorthwyo pobl ifanc, rhieni/gofalwyr yn y gymuned a bydd yn ofynnol i chi hefyd ymgymryd a dyletswyddau cartref yn y cartref preswyl.
Rhaid ichi allu dangos ymrwymiad i weithio gyda phobl ifanc a phrofiad o hyn, gallu gweithio'n effeithiol fel rhan o dim, gallu ymwneud yn dda a phlant a'u teuluoedd yn ogystal a gweithwyr proffesiynol eraill. Yn ddelfrydol byddwch yn meddu ar gymhwyster perthnasol NVQ/FfCCh Lefel 3 plant a phobl ifanc neu gymhwyster cyfatebol fel y nodir yn Fframwaith Cymwysterau Cyngor Gofal Cymru neu fe fydd yn ofynnol i chi weithio tuag at hyn.
Oherwydd bod hon yn swydd mewn man preswyl, bydd angen ichi ymgymryd a rhywfaint o weithio ar benwythnosau a chyflawni dyletswyddau cysgu i mewn.
Yn sgil natur y swydd hon mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi argymell bod cyflogeion 4 blynedd yn hyn na'r preswylydd hynaf. Felly, rhaid i ymgeiswyr fod yn 22 oed neu'n hyn.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Dyddiad cau: Dydd Mercher 11 Mawrth 2020
Cliciwch yma i weld y Disgrifiad Swydd & Manyleb Person
I ymgeisio am y swydd hon, cliciwch 'Ymgeisio Ar-lein'