Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso – 2022
Ydych chi?
• Yn cymhwyso yn 2023• Yn awyddus i sicrhau swydd barhaol• Diddordeb mewn gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar OgwrAr gael i weithio cyn cofrestru• Yn angerddol am weithio gyda phlant, pobl ifanc, a'u teuluoedd• Yn ymrwymedig i gyrraedd safonau uchel o ymarfer
Pam nawr?
Yn draddodiadol, rydym wedi penodi myfyrwyr gwaith cymdeithasol a lle maent ar gael i ymgymryd â dyletswyddau cyn dod yn Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig, cynnig apwyntiadau iddynt fel Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol.
Yr unig wahaniaeth yw ein bod eleni'n gwneud hynny'n gynharach ac yn gwneud y broses benodi yn haws, yn llawn gwybodaeth, ac yn hygyrch. Yn syml, y cyfan sydd angen i chi wneud i symud ymlaen â'ch cais yw trefnu i siarad ag aelod o'n tîm gweithlu gofal cymdeithasol.
Sut y gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch neges e-bost i SCWDP@bridgend.gov.uk i fynegi diddordeb mewn rôl gwaith cymdeithasol.
Bydd aelod o'r tîm yn trefnu amser cyfleus i gael trafodaeth anffurfiol gyda chi am eich maes gwaith cymdeithasol o ddiddordeb a'r cyfleoedd sydd ar gael. Yna gellir cynllunio cyfweliad.
Gallwch hefyd ddysgu am ein rhaglen sefydlu arobryn ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a sut y gallwn eich cefnogi wrth i chi gymryd eich camau cyntaf yn eich gyrfa gwaith cymdeithasol proffesiynol.
Mae hwn hefyd yn gyfle i chi gael gwybod am y camau canlynol, y broses gyfweld a gofyn unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnod troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).